14 Mai 2024

 

Y Gwir Anrh. Stephen Crabb AS
 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig

Annwyl Stephen,

Carchar y Parc

Fel y dywedsoch yn eich cwestiwn atodol i’r cwestiwn brys a ofynnwyd gan Chris Elmore AS yn Siambr Tŷ’r Cyffredin ddoe, mae’r sefyllfa bresennol yng Ngharchar EF Y Parc yn peri pryder mawr.

Gwnaethom fynegi ein pryderon ynghylch y sefyllfa sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod ein Pwyllgor ddoe yn sgil gohebiaeth oddi wrth Adam Price, sy’n aelod o'n Pwyllgor.

Rydym yn ymwybodol bod carchardai a rheoli troseddwyr yn fater a gedwir yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, mae eithriad i’r mater a gedwir yn ôl yn golygu bod darparu gofal iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, hyfforddiant a gwasanaethau llyfrgell mewn carchardai yn faterion datganoledig. Felly, rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer unrhyw waith y gallem ei wneud, gan gynnwys gwaith gyda Phwyllgorau eraill y Senedd, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa yn y carchar.

Rydym yn ymwybodol bod eich Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i garchardai yng Nghymru, a byddwch yn cymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Carchardai, Parôl a Phrawf yfory. Felly, byddwn yn dilyn gwaith eich Pwyllgor ar y mater hwn ac yn edrych ymlaen at weld eich adroddiad terfynol a'ch argymhellion.

Fel y pwyllgorau sy’n gyfrifol am gynnal gwaith craffu priodol ar y ddarpariaeth o ofal iechyd ac addysg i garcharorion yng Nghymru, ac am ystyried materion o ran cydraddoldeb a hawliau dynol, rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Yn gywir,

Llun o lofnod  Disgrifiad a gynhyrchwyd yn awtomatig

Sarah Murphy
Cadeirydd